1 Yr het o fedw da y'th gedwir
2 Ys gwae i eiddig os gwir
3 Ysbail gwydd cynnydd cannoed
4 Ysgythr len frig cangen coed
5 Ys dewr wyf os diryfedd
6 Ystyriawl i'th fawl a'th fedd
7 Ysdofiawdr gwydd os difai
8 Ysgin ddail man wiail mai
9 Ys da wiailadail ityh eiliwyd
10 Ystôr gwrteisrym ym wyd
11 Duw a'th fawl hoywhawdd ganmawl
hir
12 Adaildy o fedw dol-dir
13 Gerlont a wnaeth roes dyn
geirloyw
14 Yn gwmpas yor fedwen las loyw
17 [77v] Culwas a'i dwg cyd ciliai
18 Cofl ddiell o fantell fai
15 Call a difradw y'th gadwaf
16 Coron rhag tra hinon hâf
19 Cydfaeth dyffryn glyn gloywlas
20 Coedfedw gwiw yn cydfod gwas
21 Gwrygiant serch eurferch erfai
22 Gwyrthiau a ffrwyth mwynllwyth Mai
23 Pwyll rhag angof a gofal
24 Pebyll vwch di dywyll dâl
25 Mawr dyfiant gwiw foliant gwydd
26 Mynwaur o goed ydewfrig manwydd
27 Gwawdau dail gwiwdo deil-lwyn
28 Gwyrdd gylch a ddiylch ei ddwyn
29 Gwawr gelfydd serch gwir goelfain
30 Gwregys gwallt o'r goedallt gain
31 Gwiw adail heb adfailiaw
32 Gwaith wyd Morfydd llwyd a'i llaw
Dd' ap Glm'